Ymunwch â ni

Os hoffech chi roi o'ch amser naill ai am un digwyddiad yn unig neu yn rheolaidd fel gwirfoddolwr a/neu aelod o'n Pwyllgor, byddwch chi'n sicr o dderbyn croeso cynnes gennym ni ar unrhyw adeg.

Byddai cymaint neu gyn-lleied o amser ag y gallwch ei sbario yn ein helpu ni gyda'n hymdrechion i godi arian. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod unwaith bob deufis ac rydym ni'n cadw mewn cysylltiad gyda'n holl aelodau a gwirfoddolwyr rhwng y cyfarfodydd trwy alwadau ffôn ac e-byst. Rydym ni hefyd yn cyfarfod mewn sawl digwyddiad ac yn ceisio trefnu unrhyw syniad codi arian a ddaw i law, boed yn syniad bach neu fawr. Ac wrth gwrs, rydym ni hefyd bob tro'n chwilio am wirfoddolwyr newydd.

Cysylltwch â'r ysgrifennydd trwy e-bost neu bost:
Secretary@northwalescancerappeal.co.uk
Admin@northwalescancerappeal.co.uk

Yr Ysgrifennydd
North Wales Cancer Appeal
C/o General Office
Ysbyty Glan Clwyd
Bodelwyddan
LL18 5UJ