Newyddion Diweddaraf
POTELI DŴR PERSONOL AR GYFER CLEIFION CANSER Y PROSTAD Mae'r Adran Driniaeth Radiotherapi yng Nghanolfan Ganser Gogledd Cymru, Ysbyty Glan Clwyd yn gweld cyfartaledd o 450 o gleifion canser y prostad y flwyddyn. Un o'r materion ymarferol a wynebir yn ystod eu triniaeth yw'r angen i bob claf yfed 500ml o ddŵr cyn eu triniaeth Radiotherapi. Sylweddolodd Jonathan Evans, Radiotherapydd yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, pa mor anodd oedd hi i fonitro faint o ddŵr yr oedd cleifion yn ei yfed gan ddefnyddio cwpanau papur, a bod angen sawl cwpan papur ar bob claf. Meddyliodd felly am y syniad o roi potel ddŵr bersonol i bob claf. Byddai hynny nid yn unig yn lleihau ar y gwastraff ond hefyd yn ei gwneud hi’n haws monitro hylifau oedd yn cael ei yfed gan gleifion ac yn lleihau'r risg o haint. Cysylltodd Jonathan ag Apêl Canser Gogledd Cymru i ofyn a fyddent yn barod i roi 500 o boteli dŵr i'r adran i'w defnyddio gan y grŵp cleifion penodol hwn. Gyda'r risg ychwanegol o groes-heintio, credai Jonathan y byddai potel ddŵr bersonol yn ddatrysiad delfrydol. Carol Pritchard Jones, Cadeirydd Canser Gogledd Cymru Apêl aeth ati i ddod o hyd i boteli addas a rhoi manylion cyswllt ar gyfer yr Elusen a'r logo ar y poteli Dywedodd Pat Evans, Rheolwr Gwasanaethau Radiotherapi yn y Ganolfan 'Roedd syniad Jonathan y dylai cleifion dderbyn eu potel bersonol eu hunain yn ddatrysiad delfrydol i'n problem ac rydym yn ddiolchgar i Apêl Canser Gogledd Cymru am eu rhodd garedig o 500 o boteli yfed plastig. Mae cleifion yn cael 20 ymweliad dydd dros gyfnod o bedair wythnos a defnyddir y poteli yn ystod eu hymweliadau. ' Dywedodd Carol Pritchard Jones 'Rydym yn falch iawn o allu darparu'r poteli hyn i'r Adran Radiotherapi a chynorthwyo gydag un o'r heriau dydd i ddydd sy'n ein hwynebu. Mae'r poteli hefyd yn darparu lle delfrydol inni hyrwyddo'r Elusen a'r gwaith parhaus a wnawn ar y cyd â Chanolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd '.
|
Y MARATHON 100,000 PERSON CYNTAF Y BYD! Mae disgwyl i Farathon Virgin Money Llundain 2021 fod y marathon gyda’r mwyaf o redwyr yn cymryd rhan erioed, gyda 100,000 o redwyr anhygoel yn mentro yn y ras. Sut mae hyn yn bosibl? Wel, mae Marathon rhithiol Virgin Money Llundainyn dychwelyd eleni, gyda 50,000 lle ar gael i redwyr wneud eu 26.2 milltir o ble bynnag maen nhw yn y byd, ar ddydd Sul, 3 Hydref. Ar yr un diwrnod, bydd 50,000 o bobl yn rhedeg y llwybr marathon traddodiadol o Blackheath i The Mall - cynnydd o dros 7,000 ar y niferoedd blaenorol sydd wedi cwblhau’r ras. Hoffech chi fod yn un o’r 100,000? Yn sicr dyma y Marathon i gael lle arno yn 2021. P'un a ydych yn rhedeg eich marathon cyntaf, eich degfed marathon ar hugain, eisiau cyfalwni her am oes, eisiau gwireddu eich breuddwyd, eisiau dathlu neu goffau ...mae gennym lefydd ar eich cyfer i redeg tuag at Apêl Canser Gogledd Cymru. Mae Apêl Canser Gogledd Cymru yn Elusen sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ac sy'n codi arian i brynu offer ar gyfer Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru. Ers 1991 mae’r elusen wedi casglu mwy na £3 miliwn Cyhoeddwyd y ceisiadau i gael lle yn y Marathon ar 8 Chwefror 2021 ar gyfer cael lle trwy fynediad cyffredinol, ond os na chawsoch le, yna mae gennym ni lefydd ar gael. Gallwch lawrlwytho'r ffurflen Gais yma……. Neu anfonwch E-bost at admin@northwalescancerappeal.co.uk a byddwn yn anfon ffurflen gais atoch yn syth. |
Wildcat Ukulele yn Codi £400 tuag at NWCA Derbyniodd Paul Barnard driniaeth Radiotherapi yn ddiweddar yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru ac fel ffordd o ddiolch, cafodd syniad arloesol i godi arian at yr Elusen. Mae Paul yn gwneud offerynnau cerddorol ac mae wedi dechrau ar brosiect i greu Iwcalili yn arbennig ar gyfer Apêl Ganser Gogledd Cymru cyn mynd yn ei flaen i’w roi mewn arwerthiant lle gwnaeth y cynigydd llwyddiannus ei roi’n rhodd i'r Elusen. Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y cynigydd llwyddiannus wedi talu £360.00 am yr offeryn gan gynyddu ei rodd i £400.00 er budd yr Elusen. Mae lluniau o'r offeryn gorffenedig yn dangos teyrnged wych a chwbl unigryw i waith yr Elusen a'r Ganolfan Trin Canser. Diolch o galon i Paul Barnard a Paul Garrud – y cynigydd llwyddiannus.
|
CLOSING DATE - Virgin Money London Marathon 2020 (cyfieithiad yn dod yn fuan) Closing Date for Applications Extended To 30th November 2019 |
Ladies Lunch 2019 Raises £5,000 For NWCA (cyfieithiad yn dod yn fuan) Now a regular annual event the Ladies Lunch kindly hosted by Karen & John Hall of the Brookhouse Mill in Denbigh, this year attracted over 170 guests. Saturday 17th August 2019 fortunately turned out dry and sunny and the marquee sited courtesy of Philip and Rachel Hughes at Brookhouse Farm provided the perfect venue for a fabulous Canape and Prosecco Reception, followed by a beautiful buffet lunch. |
SkyBall ![]() Ddydd Sadwrn 6 Ebrill trefnodd grŵp o ffrindiau ddawns arbennig iawn â’i chynnal yn Neuadd Wigfair yng Nghefn. Cafodd un aelod o’r grŵp ddiagnosis o ganser y fron ym mis Mawrth 2018 ac o ganlyniad i’r gofal a’r driniaeth ardderchog a gafoddyn y Ganolfan Trin Canser Gogledd Cymru roedd y grŵp eisiau codi arian i ddiolch iddynt. Cafodd Kate ei thrin â’r peiriant radiotherapi y bu i’r elusen hon ei brynu yn 2015. Ar hyd ei thaith cafodd ei hysbrydoli gan y gofal o’r radd flaenaf a gafodd gan staff dawnus a gofalgar yn y Ganolfan Canser. Mae’r grŵp wedi gweithio’n ddiflino dros sawl mis i wneud y SKYBALL ar thema James Bond yn noson llawn hwyl ac yn llwyddiant codi arian arbennig. Bu i lawer roi o’u hamser, gan gyfrannu mewn sawl ffordd a chyfrannodd sawl cwmni lleol yn hael iawn. Cododd yr Arwerthiant Addewidion £16,000 ar ei ben ei hun. Roedd profiadau gwefreiddiol a deniadol ar gael. Rydym yn ddiolchgar iawn i chi gyd. Rydym ni, aelodau o’r Pwyllgor NWCA, eisiau diolch yn fawr iawn i’r merched ar y pwyllgor trefnu, Kate, Teri, Charlotte, Leanne, Erin, Lynsey, a Cathy ac i bawb a brynodd dicedi a rhoi mor hael trwy gydol y noson. Bydd siec gwerth £26,215.00 yn cael ei roi i’r elusen yn fuan. Hoffwn ddiolch i Nathan Roberts ffotograffydd y noson a roddodd y lluniau arbennig y gallwch eu gweld yma ar wefan yr elusen. Rhoddodd Nathan ei wasanaeth am ddim ac mae’n gwerthu lluniau o’r digwyddiad y gallwch ddod o hyd iddynt yma i lle bydd yr holl elw’n mynd at gyfanswm codi arian y SKYBALL. |
Marathon Runners Raise £22,000 for the Charity (cyfieithiad yn dod yn fuan) ![]() All 6 Gold Bond Runners have exceeded their £2,000 target and raised a combine total of over £22,000 for the North Wales Cancer Appeal. All runners finished and an additional £4,740.75 from independent runners in the London and Manchester Marathon, Anthony Parvin and Sam Herd brings our grand total raised to over £26,500. Thanks to all the runners for their huge and much appreciated effort. Mae'r rhedwyr a'u rhesymau dros gymryd rhan yn y Marathon fel a ganlyn: Dr Graham Ormondroyd
Dywedodd Graham, 'maent yn dweud y bydd un ym mhob dau unigolyn yn cael eu heffeithio gan ganser ac mae hyn yn golygu gall fy ffrindiau a fy nheulu fod angen gwasanaeth Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru. Os gallaf wneud gwahaniaeth drwy 'dalu ymlaen' yna dyna rwy'n teimlo y dylwn wneud. Mae gennyf y dymuniad i helpu i wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol. I roi i gronfa Graham ewch ar https://uk.virginmoneygiving.com/GrahamOrmondroyd Trish Thompson
Mae Trish yn cynnal cystadleuaeth dartiau a nosweithiau ras i helpu gyda'r codi arian - os hoffech roi i Trish, ewch ar https://uk.virginmoneygiving.com/Team/TrishEmmaJanice Hywel Roberts
Dywedodd Hywel 'gwelais holl waith caled ac ymroddiad Hawys, nid yn unig o ran yr hyfforddiant ond hefyd yr ochr codi arian ac rwy'n gystadleuol iawn a byddaf yn gwneud popeth allaf i gwblhau'r cwrs yn 2019 a chodi mwy na'r £7,000 a gododd Hawys. Fel athro yn Ysgol Dewi Sant y Rhyl, rwyf wedi dod ar draws cymaint o deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan y clefyd creulon hwn a hefyd wedi colli fy Ewythr a fy Nhaid i ganser, buaswn yn hoffi gwneud rhywbeth i helpu '. I roi i gronfa Hywel, ewch ar https://uk.virginmoneygiving.com/HywelRoberts3 Gwenan Johnson
Mae Gwenan yn gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd ac wedi colli perthnasau annwyl i ganser. Mae hefyd yn gefnogwr brwd i Apêl Canser Gogledd Cymru, dywedodd Gwenan 'Fe wnes i fynychu Cinio Merched yn yr Haf a dysgais sut mae'r Elusen yn dyrannu arian ar gyfer offer a gofal cleifion lleol ac roedd arnaf eisiau ychwanegu at y gronfa hon. Mae fy merch wedi addo fy helpu i drefnu teithiau cerdded misol yn lleol a nosweithiau i godi arian ar gyfer fy nharged tra byddaf i allan ar y milltiroedd o hyfforddiant! ' I roi i gronfa Gwenan ewch ar https://uk.virginmoneygiving.com/GwenanJohnson Emma Stephens
Dywedodd Emma, 'mae'r gefnogaeth werthfawr y mae'r Apêl yn ei roi i staff a chleifion yn y Ganolfan Trin Canser yn wych ac yn cefnogi'r gofal sy'n cael ei ddarparu. Roedd argymhelliad personol fy ffrind yn golygu cymaint, a byddaf yn hyfforddi a chodi arian drwy drefnu digwyddiadau a raffl i gefnogi cyfanswm terfynol fy nharged.' I roi i gronfa Emma ewch ar https://uk.virginmoneygiving.com/Team/TrishEmmaJanice Holly Hulson
Dywedodd Holly, "Rwy'n edrych ymlaen i godi arian ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru er mwyn eu helpu i sicrhau bod y driniaeth gwych sydd ar gael i unigolion sy'n dioddef gyda chanser yn parhau." Mae rhedeg yn newydd i Holly ond mae hi'n edrych ymlaen at yr her o hyfforddi ar gyfer marathon, ochr yn ochr â chodi cymaint o arian â phosibl ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru (ac i gynllunio ei phriodas ychydig wythnosau ar ôl y marathon!). Mae Holly yn bwriadu codi arian trwy ei chwant am fwyd. Mae'n bwriadu trefnu stondinau nwyddau wedi'u pobi yn ei chlwb criced lleol, gosod stondinau ar lwybrau cerdded lleol a lleoliadau eraill yng Nghaer a Gogledd Cymru. Mae hefyd yn bwriadu defnyddio ei sgiliau a gwybodaeth dieteteg a maethol i godi arian yn y flwyddyn newydd, felly os ydych yn edrych am gyngor diet yn gyfnewid am rodd, cysylltwch â hi ar hollyhulson@live.co.uk. I roi i gronfa marathon Holly ewch ar |
Digwyddiad Codi Arian trwy Feicio am Ddiwrnod Cyfan i Redwraig Marathon Gwnaeth Holly Hulson benderfynu mynd ar gefn beic er mwyn cychwyn ei hymdrechion Codi Arian trwy Farathon. Gwnaeth Holly, sy’n faethegydd ac sy’n ymddiddori mewn ffitrwydd osod cwpl o feiciau troelli yng nghyntedd Sainsburys yn Y Rhyl ddydd Sadwrn 2 Chwefror a bu ar gefn beic yn ddi-stop o 9am tan 5pm er mwyn gwella ei chyfanswm codi arian. Gyda chymorth ffrindiau, perthnasau ac ar un adeg, ci anwes y teulu ar adegau penodol o’r dydd… diolch i haelioni pobl leol a oedd yn ymweld â Sainsburys ar gyfer eu nwyddau dydd Sadwrn, gwnaeth Holly lwyddo i godi dros £776.00! Diolch yn fawr i’r aelodau hynny o’r cyhoedd a roddodd ac i’r staff a’r rheolwyr yn Sainsburys Y Rhyl a wnaeth y digwyddiad codi arian hwn yn bosibl. Hefyd i ‘Saints of Meliden’ a ddarparodd y ddau feic – da iawn a diolch i bawb! Mae’n rhaid i Holly droi ei sylw erbyn hyn at hyfforddi ar gyfer y Marathon ar ôl bod ar gefn beic yn ddi-stop am wyth awr. |